Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

Ymgyrchoedd

Cofrestru gydag Ymgyrch

Er mwyn cofrestru gydag unrhyw un o’r ymgyrchoedd, llenwch y manylion isod, os gwelwch yn dda:
Rydw i’n cytuno â thelerau
ac amodau Kay Swinburne


Nid ydwyf am dderbyn unrhyw
ohebiaeth ychwanegol
Enw: *
Enw’r ymgyrch: *
Ffôn: *
Cyfeiriad e-bost: *


Arbed yr Wenynen
Mae gwenyn dan fygythiad ledled yr Undeb Ewropeaidd. Fe amcangyfrifir fod poblogaethau o wenyn yng Nghymru yn diflannu ar raddfa o 39% y flwyddyn – gydag un ym mhob tri o gytrefi wedi marw yn y tair blynedd diwethaf. Mae’r ymchwilwyr yn dweud nad oes unrhyw un rheswm penodol am y dirywiad hwn, ond bod colli cynefin, datguddiad I gemegau a heintiau yn esboniadau posib.
 
Yr hyn sy’n glir iawn yw effaith drychinebus a gaiff hyn ar ddiogelwch bwyd Ewrop. Mae’r wenynen fêl yn peillio dros 90 o gnydau – o ffrwythau i lysiau, i gnau a grawn. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu i ddod â’r dirywiad hwn i ben gan y byddai colli’r ddolen holl-bwysig hon yn y cadwyn bwyd yn dod â bygythiad enbyd i ddiwydiant amaethyddol Prydain. Heb gynllun i warchod y gwenyn, ni fydd cynllun B.
 
Os hoffech chi wybod mwy am gadw gwenyn, cysylltwch â Chymdeithas Gwenwynwyr Cymru trwy www.wbka.com
 
Mae’r UE ar hyn o bryd yn ariannu ymchwil newydd er mwyn gwarchod gwenyn:   
http://ec.europa.eu/food/animal/liveanimals/bees/research_en.htm

Iechyd y wenynen fêl a’r heriau i’r sector cadw gwenyn
 
Fel ymateb i’r nifer o ymholiadau rydw i wedi’u derbyn o’m hetholwyr parthed y cynnig amgen dros ddatrysiad ar iechyd gwenyn mêl, a argymhellwyd gan Jill Evans ASE o’r grwp Gwyrdd, hoffwn i esbonio pam i mi bleidleisio yn ei erbyn yn ystod Sesiwn Lawn mis Tachwedd ac o blaid adroddiad Tabajdi fel ag y’i ddrafftiwyd.
 
Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod nifer y gwenyn mêl wedi lleihau’n arw dros y blynyddoedd diwethaf ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar allu Ewrop i gynyrchu cnydau sydd angen cael eu peillio. Mae nifer o ffactorau wedi’u cynnig i esbonio’r cwymp hwn, ac mae gwenwynwyr Cymru, er eu bod yn cynyddu o ran eu nifer, yn pryderu am barhad hir dymor poblogaeth gwenyn. Er bod cadw gwenyn yn awr mor boblogaidd yn y DU bod cychod gwenyn i’w gweld ar do Cyfnewidfa Stoc Llundain.
 
Mae adroddiad hawl cychwyn hunan Tabajdi yn cynnig safbwynt gytbwys ar y rhesymau dros farwolaeth y gwenyn mêl ac mae’n iawn galw am i ragor o ymchwil fod ar gael o raglen FP8 i ganolbwyntio ar atal haint gwenyn ac i ddod o hyd i ddatrysiadau posib i’w nifer lleihaol. Rwyf felly yn gobeithio fod ymchwilwyr yn edrych yn fyd-eang am astudiaethau achos a’u bod yn dechrau o safbwynt ddibleidiol parthed rhai plaladdwyr penodol a thechnoleg enynnol. Mae’n rhaid i ymchwil annibynnol fod yn annibynnol ac yn ddiduedd.  Nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddiymwad parthed y rhesymau am farwolaethau diweddar.
 
Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
20/03/2012
 
Fe fydd Kay Swinburne, ASE Ceidwadol dros Gymru, yn ogystal â David Davies AS Mynwy, Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru yn ymweld â Chas-gwent ddydd Iau i gwrdd â’r prif hyfforddwr a Terry Dymock a’i dîm.

Mae chwaraeon yn dod â manteision cymdeithasol a manteision iechyd i bawb, ac fel rhan o’i gwaith ar Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd Ewrop, mae Kay yn ymweld â bocswyr ifainc mewn clybiau o gwmpas Cymru.
 
"Rydym yn hynod falch fod gan Kay ddiddordeb mewn bocsio ac wedi helpu’r clwb gydag offer oedd ei angen gymaint arnon ni – gall godi arian fod yn anodd iawn ac mae pob cyfraniad bach yn helpu,” ddywedodd Terry Dymock, sy’n rhedeg y clwb bach yng Nghas-gwent.
 
Mae David Davies AS, ‘The Tory Tornado’, a Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru, yn cefnogi ymdrech Kay i annog cymaint o bobl ifainc â phosib i ymgymryd â bocsio. “Fel bocsiwr brwd fy hunan, rwy’n gwybod beth all hyfforddi’n rheolaidd ei wneud ar gyfer pobl ifainc ac mae’n wych gweld Kay yn ymgymryd â phobl ifainc yma. Rwy’n falch y gall Kay gefnogi clwb lleol yn fy ardal i.
 
Fel rhan o brosiect cymdeithasol ehangach, mae Kay yn gweithio gyda chlybiau ledled Cymru i helpu i ddarparu offer sylfaenol I gynorthwyo pobl ifainc wrth iddynt ddatblygu yn y fabolgamp hon. “Mae Terry a’i dîm yn gwneud gwaith gwych yng Nghas-gwent ac rwy’n falch y gallwn ni gefnogi’r gwaith gwych mae’n ei wneud yn y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae 113 o glybiau cysylltiedig ledled Cymru gyda thua 4,600 o aelodau, gan gynnwys llawer o bobl rhwng 10 a 24 mlwydd oed. Mae gan Gymru hanes o feithrin pencampwyr bocsio o radd fyd-eang ac rwy’n hynod o gefnogol i’n hieuenctid sy’n ymwneud ag unrhyw fabolgampau.
 
"Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu datblygiad wrth iddyn nhw gystadlu mewn twrnameintiau ledled Cymru.”
 
19/03/2012
Fe hoffwn i longyfarch Tîm Rygbi Cymru am wneud Cymru’n wlad mor falch ar ôl chwarae cystal yng ngemau Cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni. Oherwydd llwyddiant y tîm mewn ennill y Gamp Lawn, mae llygaid y byd bellach ar Gymru ac mae talent Cymru i’w gweld gan bawb. Llongyfarchiadau!
08/03/2012

Mae Kay yn falch i gefnogi World Kidney Day 2012. Fe gewch chi ragor o fanylion trwy

http://www.worldkidneyday.co.uk/

ac fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth bellach yn adran 'Erthyglau' y wefan hon.
Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2012 – Cedwir pob hawl