Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

Treuliau / Lobïwyr

Mae’r cyfryngau wedi rhoi llawer o sylw i dreuliau a lwfansau ASEau ac ASau yn ddiweddar ac mi gredaf y byddai’n fuddiol egluro nifer o bwyntiau.

Treuliau

Er mwyn tryloywder ac er mwyn cydymffurfio â Payment of Expenses and Allowances to Members (PEAM) Senedd Ewrop a Rules of Procedure of the Conservative Delegation, fe gewch ddarllen fy ffurflenni Right to Know yn fan hyn:

Gorffennaf - Rhagfyr 2009
Ionawr - Mehefin 2010
Gorffennaf - Rhagfyr 2010
Ionawr - Mehefin 2011

Fe roddir ystod o dreuliau i ASEau, gan gynnwys lwfans misol sy’n cyfro lwfansau staffio, treuliau i’r swyddfa, treuliau gwaith a theithio. Fe rennir pob un o’r lwfansau yma yn gyfrifon ar wahan er mwyn eu cadw’n dryloyw. Mae pob un o’r cyfrifon hyn yn cael eu harchwilio yn flynyddol gan gyfrifydd cymwys. Fe fwcir teithiau awyren ail ddosbarth pan fo’n bosib.

Fe seilir fy nghyflog ar 38.5% o enillion Barnwyr Llys Cyfiawnder Ewrop yn Ewros ac yr ydwy’n talu treth incwm yr UE a threth gymdeithasol yr UE arni. Rydw i wedyn yn talu treth incwm y DU a chyfraniad llawn tuag at Yswiriant Cenedlaethol y DU.

Am wybodaeth bellach ar dreuliau a lwfansau, ymwelwch â gwefan Ceidwadwyr yn Senedd Ewrop trwy glicio yma.

Lobïwyr

Hefyd, er eich gwybodaeth, fe allwch chi weld rhestr o lobïwyr sy wedi cysylltu â fi odan:

Rhestr o Lobïwyr Ionawr-Ebrill 2010
Rhestr o Lobïwyr Gorffennaf-Rhagfyr 2010
Rhestr o Lobïwyr Ionawr-Mehefin 2011
Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
20/03/2012
 
Fe fydd Kay Swinburne, ASE Ceidwadol dros Gymru, yn ogystal â David Davies AS Mynwy, Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru yn ymweld â Chas-gwent ddydd Iau i gwrdd â’r prif hyfforddwr a Terry Dymock a’i dîm.

Mae chwaraeon yn dod â manteision cymdeithasol a manteision iechyd i bawb, ac fel rhan o’i gwaith ar Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd Ewrop, mae Kay yn ymweld â bocswyr ifainc mewn clybiau o gwmpas Cymru.
 
"Rydym yn hynod falch fod gan Kay ddiddordeb mewn bocsio ac wedi helpu’r clwb gydag offer oedd ei angen gymaint arnon ni – gall godi arian fod yn anodd iawn ac mae pob cyfraniad bach yn helpu,” ddywedodd Terry Dymock, sy’n rhedeg y clwb bach yng Nghas-gwent.
 
Mae David Davies AS, ‘The Tory Tornado’, a Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru, yn cefnogi ymdrech Kay i annog cymaint o bobl ifainc â phosib i ymgymryd â bocsio. “Fel bocsiwr brwd fy hunan, rwy’n gwybod beth all hyfforddi’n rheolaidd ei wneud ar gyfer pobl ifainc ac mae’n wych gweld Kay yn ymgymryd â phobl ifainc yma. Rwy’n falch y gall Kay gefnogi clwb lleol yn fy ardal i.
 
Fel rhan o brosiect cymdeithasol ehangach, mae Kay yn gweithio gyda chlybiau ledled Cymru i helpu i ddarparu offer sylfaenol I gynorthwyo pobl ifainc wrth iddynt ddatblygu yn y fabolgamp hon. “Mae Terry a’i dîm yn gwneud gwaith gwych yng Nghas-gwent ac rwy’n falch y gallwn ni gefnogi’r gwaith gwych mae’n ei wneud yn y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae 113 o glybiau cysylltiedig ledled Cymru gyda thua 4,600 o aelodau, gan gynnwys llawer o bobl rhwng 10 a 24 mlwydd oed. Mae gan Gymru hanes o feithrin pencampwyr bocsio o radd fyd-eang ac rwy’n hynod o gefnogol i’n hieuenctid sy’n ymwneud ag unrhyw fabolgampau.
 
"Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu datblygiad wrth iddyn nhw gystadlu mewn twrnameintiau ledled Cymru.”
 
19/03/2012
Fe hoffwn i longyfarch Tîm Rygbi Cymru am wneud Cymru’n wlad mor falch ar ôl chwarae cystal yng ngemau Cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni. Oherwydd llwyddiant y tîm mewn ennill y Gamp Lawn, mae llygaid y byd bellach ar Gymru ac mae talent Cymru i’w gweld gan bawb. Llongyfarchiadau!
08/03/2012

Mae Kay yn falch i gefnogi World Kidney Day 2012. Fe gewch chi ragor o fanylion trwy

http://www.worldkidneyday.co.uk/

ac fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth bellach yn adran 'Erthyglau' y wefan hon.
Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2012 – Cedwir pob hawl