Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

Site Map

Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
20/03/2012
 
Fe fydd Kay Swinburne, ASE Ceidwadol dros Gymru, yn ogystal â David Davies AS Mynwy, Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru yn ymweld â Chas-gwent ddydd Iau i gwrdd â’r prif hyfforddwr a Terry Dymock a’i dîm.

Mae chwaraeon yn dod â manteision cymdeithasol a manteision iechyd i bawb, ac fel rhan o’i gwaith ar Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd Ewrop, mae Kay yn ymweld â bocswyr ifainc mewn clybiau o gwmpas Cymru.
 
"Rydym yn hynod falch fod gan Kay ddiddordeb mewn bocsio ac wedi helpu’r clwb gydag offer oedd ei angen gymaint arnon ni – gall godi arian fod yn anodd iawn ac mae pob cyfraniad bach yn helpu,” ddywedodd Terry Dymock, sy’n rhedeg y clwb bach yng Nghas-gwent.
 
Mae David Davies AS, ‘The Tory Tornado’, a Llywydd Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru, yn cefnogi ymdrech Kay i annog cymaint o bobl ifainc â phosib i ymgymryd â bocsio. “Fel bocsiwr brwd fy hunan, rwy’n gwybod beth all hyfforddi’n rheolaidd ei wneud ar gyfer pobl ifainc ac mae’n wych gweld Kay yn ymgymryd â phobl ifainc yma. Rwy’n falch y gall Kay gefnogi clwb lleol yn fy ardal i.
 
Fel rhan o brosiect cymdeithasol ehangach, mae Kay yn gweithio gyda chlybiau ledled Cymru i helpu i ddarparu offer sylfaenol I gynorthwyo pobl ifainc wrth iddynt ddatblygu yn y fabolgamp hon. “Mae Terry a’i dîm yn gwneud gwaith gwych yng Nghas-gwent ac rwy’n falch y gallwn ni gefnogi’r gwaith gwych mae’n ei wneud yn y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae 113 o glybiau cysylltiedig ledled Cymru gyda thua 4,600 o aelodau, gan gynnwys llawer o bobl rhwng 10 a 24 mlwydd oed. Mae gan Gymru hanes o feithrin pencampwyr bocsio o radd fyd-eang ac rwy’n hynod o gefnogol i’n hieuenctid sy’n ymwneud ag unrhyw fabolgampau.
 
"Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn eu datblygiad wrth iddyn nhw gystadlu mewn twrnameintiau ledled Cymru.”
 
19/03/2012
Fe hoffwn i longyfarch Tîm Rygbi Cymru am wneud Cymru’n wlad mor falch ar ôl chwarae cystal yng ngemau Cystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni. Oherwydd llwyddiant y tîm mewn ennill y Gamp Lawn, mae llygaid y byd bellach ar Gymru ac mae talent Cymru i’w gweld gan bawb. Llongyfarchiadau!
08/03/2012

Mae Kay yn falch i gefnogi World Kidney Day 2012. Fe gewch chi ragor o fanylion trwy

http://www.worldkidneyday.co.uk/

ac fe allwch chi ddod o hyd i wybodaeth bellach yn adran 'Erthyglau' y wefan hon.
Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2012 – Cedwir pob hawl