Oriel
Iechyd y wenynen fêl a’r heriau i’r sector cadw gwenyn
Fel ymateb i’r nifer o ymholiadau rydw i wedi’u derbyn o’m hetholwyr parthed y cynnig amgen dros ddatrysiad ar iechyd gwenyn mêl, a argymhellwyd gan Jill Evans ASE o’r grwp Gwyrdd, hoffwn i esbonio pam i mi bleidleisio yn ei erbyn yn ystod Sesiwn Lawn mis Tachwedd ac o blaid adroddiad Tabajdi fel ag y’i ddrafftiwyd.
Rydym ni i gyd yn ymwybodol fod nifer y gwenyn mêl wedi lleihau’n arw dros y blynyddoedd diwethaf ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar allu Ewrop i gynyrchu cnydau sydd angen cael eu peillio. Mae nifer o ffactorau wedi’u cynnig i esbonio’r cwymp hwn, ac mae gwenwynwyr Cymru, er eu bod yn cynyddu o ran eu nifer, yn pryderu am barhad hir dymor poblogaeth gwenyn. Er bod cadw gwenyn yn awr mor boblogaidd yn y DU bod cychod gwenyn i’w gweld ar do Cyfnewidfa Stoc Llundain.
Mae adroddiad hawl cychwyn hunan Tabajdi yn cynnig safbwynt gytbwys ar y rhesymau dros farwolaeth y gwenyn mêl ac mae’n iawn galw am i ragor o ymchwil fod ar gael o raglen FP8 i ganolbwyntio ar atal haint gwenyn ac i ddod o hyd i ddatrysiadau posib i’w nifer lleihaol. Rwyf felly yn gobeithio fod ymchwilwyr yn edrych yn fyd-eang am astudiaethau achos a’u bod yn dechrau o safbwynt ddibleidiol parthed rhai plaladdwyr penodol a thechnoleg enynnol. Mae’n rhaid i ymchwil annibynnol fod yn annibynnol ac yn ddiduedd. Nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddiymwad parthed y rhesymau am farwolaethau diweddar.
Undeb Ffermwyr Cymru yn ymweld â Brwsel, Hydref 2011
Fe gwrddodd Kay ag Emyr Jones a swyddog gweithredol yr FUW ym Mrwsel yr wythnos hon i drafod anghenion ffermwyr Cymru cyn i’r camau swyddogol ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ddechrau yn yr hydref.
Fe fydd rhai o’r materion allweddol yn cynnwys sicrhau cyfnod trawsnewidiol addas wrth i’r taliadau PAC newid o’r bandiau hanesyddol tuag at gynllun sy’n seiliedig ar ardal; tuag at ddenu ffermwyr ifainc i aros yn y diwydiant; a thuag at sicrhau cydbwysedd ddilys rhwng yr anghenion “gwyrddio”, fesurau cadwraeth a chynhyrchu bwyd.
Prosiect Knowledge Innovation Technology Transfer (KITE), Hydref 2011
Yn ystod ymweliad gan yr Athro David Lloyd a’i dîm yn KITE i Frwsel, fe gwrdodd Kay â pherchnogion busnes sy wedi elwa’n uniongyrchol o’r prosiect hwn a ariannwyd gan yr UE.
Mae’r sector cynhyrchu bwyd yn hynod bwysig i economi Cymru ac mae prosiect fel hwn, sy’n dod â chefnogaeth dechnegol i fentrau bychain a chanolig eu maint, yn eu galluogi i gyflwyno cynhyrchion arloesol i’r farchnad. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o gronfeydd yr UE yn cyrraedd y sector preifat pan fo’u heisiau nhw fwyaf – gan greu twf yn economi Cymru – fodd bynnag, mae’n rhaid sicrhau bod llif yr arian yn parhau.
Noddfa Eliffantod
Yn ystod ymweliad preifat diweddar i Wlad y Thai, fe dreuliodd Kay ddiwrnod mewn noddfa eliffantod i ddysgu mwy am yr anifeiliaid unigryw hyn ac i ddeall y materion gwarchodaeth sy’n effeithio ar eliffantod Asiaidd.
Dirprwyaeth CRIS i’r UD
Fe gymerodd Kay ran mewn ymweliad i reoleiddwyr a a deddfwyr oedd wedi’i drefnu gan Bwyllgor Arbennig yr UE ar yr Argyfwng Ariannol, Economaidd a Chymdeithasol (CRIS). Yn ystod ei hymweliad, fe ofynnodd hi gwestiynau i’r Federal Reserve ar y sector bancio a’r Cronfa Ariannol Rhyngwladol (IMF) ar y materion sefydlogi hynny sy’n cael eu gweithredu y tu mewn i’r UE.
Fe gafwyd trafodaethau ar amrywiaeth o reoleiddiad ariannol o’r UE a’r UD gydag aelodau o’r Gyngres a’r Senedd.
Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd
Yn ddiweddar, fe lansiodd Kay ei hadroddiad ar strwythur y farchnad, “Trading in Financial Instruments”, sy’n ymchwilio’r rôl bwysig mae marchnadoedd ecwiti yn ei chwarae i’r economi o ran tyfiant economaidd a chreu swyddi ac mae hefyd yn gofyn a ydy’r strwythurau presennol yn briodol i’w rôl draddodiadol ac angenrheidiol.
Yn bennaf oll, y rôl honno yw sicrhau bod marchnadoedd cyfalaf yn caniatáu i gynilion buddsoddwyr gyrraedd entrepreneuriaid a’r busnesau bychain a mawrion hynny sy’n asgwrn cefn i’n heconomi. Pan fyddant yn dod i derfyn, fe roddir pob tyfiant economaidd yn y fantol.
Mae’n siwr mai The Markets in Financial Instruments Directive - "MiFID" oedd y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth o’r UE mewn gyrru marchnad sengl yn y gwasanaethau ariannol, yn bennaf trwy agor marchnadoedd ecwiti a chael gwared ar fonopolïau ar fasnachu mewn stoc Ewropeaidd. Fodd bynnag, ers dechrau marchnad Ewropeaidd gystadleuol newydd, mae’r defnydd o dechnoleg wedi esblygu’n sylweddol ac mae hi wedi ennill y blaen ar reoleiddwyr a rheolau.
Mae esblygiad technolegau galluogi wedi peri i strategaethau masnachu newydd ymddangos, er enghraifft masnach mynych iawn, mynediad noddedig, cydleoliad a masnach algorythmig.
Tra bod nifer o fuddiannau i’r strategaethau a gwasnaethau gwahanol hyn, mae’n bwysig cael gafael ar gymaint o ddata ag sy’n bosib er mwyn deal eu heffeithiau ar y farchnad a sut maen nhw’n cyfrannu at hylifedd a gweithrediad y farchnad yn llwyr.
Fe ddylid annog a gwarchod y rheini sy’n ychwanegu at effeithioldeb y farchnad ac sy’n ei gwneud hi’n haws ariannu cwmnïoedd, ond mae’n rhaid scriwtineiddio a barnu’r rheini sy’n bygwth tegwch a sefydlogrwydd y system.
Rydym ni ar flaen y gad o ran gwaith yr UE ar y materion hyn ac yn gosod cefndir i adroddiad MiFID a’r Market Abuse Directive "MAD" a fydd yn dod yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Cyfarfod Grwp yn Latfia
Fe gynhaliodd Grwp ECR gyfarfod Grwp yn Latfia yn Riga ym mis Medi a phrif ganolbwynt y drafodaeth oedd yr argyfwng economaidd. Fe roedd Gweinidogion Latfia, Trysorydd Banc Latfia a swyddogion busnes nodedig ymysg y rheini oedd yn bresennol. Fe arweiniodd Kay banel ar waith Pwyllgor Arbennig Senedd Ewrop ar yr Argyfwng Cymdeithasol, Ariannol ac Economaidd. Fe roddwyd pwyslais arbennig ar yr effaith y cafodd yr argyfwng ariannol ar Latfia, sef un o’r Aelod-wladwriaethau a ddioddefodd waethaf oherwydd ei lefelau uchel o ddyled breifat a dyled y cyhoedd sydd wedi gwneud lleihad o 30% yng nghyflogau’r cyhoedd a chyfyngiadau ar wariant cyhoeddus yn angenrheidiol.
Ionawr - Brecwast Undeb Amaethwyr Cymru
Mae 1,500 o leoliadau ar draws y DU wedi cynnal brecwastau ffermwyr, ond yma ym Mrwsel yn Senedd Ewrop fe gawson ni’r anrhydedd o noddi dirprwyaeth o Gymru oedd yn cynrychioli Undeb Amaethwyr Cymru – dyma’r unig frecwast i gael ei weinu i ffermwyr Cymru y tu allan i Gymru. Cludwyd y cynhwysion i gyd, sef bacwn, selsig, menyn, iogwrt Cymreig a detholiad o wahanol gaws o gynhyrchwyr Cymreig er mwyn creu brecwast traddodiadol ar gyfer ASEau. Yr oedd yn ddechreuad hyfryd i ddiwrnod gwaith llawer o’m cydweithwyr yma yn y Senedd, ac yn fwy pwysig, yn gyfle ardderchog i hyrwyddo cynnyrch Cymreig a’r gymuned ffermio leol. Diolch am ddod!
Siambr Fasnach o America i’r Undeb Ewropeaidd
Er mwyn sicrhau bod cwmnïoedd sy’n gweithredu yn Ewrop yn gwybod y diweddaraf am ddeddfwriaeth arfaethedig yr UE ar ddeilliadau fe drefnodd swyddfa Brwsel AmCham gyfarfod briffio. Fe’m gofynnwyd i ymuno â phanel o arbenigwyr i roi barn Senedd Ewrop. Roedd aelodau eraill o’r panel yn cynnwys Patrick Pearson o Gomisiwn Ewrop, Roger Colgan o’r International Swaps and Derivatives Association, Kurt Schaefer o Daimler AG a Richard Kay o JP Morgan. Fe drafodom effaith yr argymhellion yr awgrymwyd, a fydd yn cynyddu’r defnydd o gynhyrchion deilliadol safonedig, i geisio sicrhau bod deilliadau naill ai’n cael eu newid, eu gwerthu neu eu clirio yn y dyfodol.
Gan fod y rhan fwyaf o gwmnïoedd yn defnyddio deilliadau i leihau’r risg i’w busnesau, gan gynnwys risg cyfnewid tramor a newidiadau ym mhris deunyddiau crai, fe fyddaf i’n awr yn gweithio gyda chwmnïoedd ledled Ewrop i geisio sicrhau bod unrhyw argymhellion sy’n codi’n trin defnyddwyr cynhyrchion deilliadol yn wahanol i hapfuddsoddwyr ariannol. Os yn bosib, fe weithiaf er mwyn sicrhau bod y defnyddiwr go iawn yn cael ei eithrio, ar linellau tebyg i’r UD, er mwyn sicrhau nad yw ein cwmnïoedd o dan anfantais fyd-eang.
Addysg Uwch yng Nghymru
Fe gwrddodd y pedwar ASE o Gymru â nifer mawr o gynrychiolwyr o’r sector Addysg Uwch yng Nghymru a thrafod nifer o faterion a heriau cyfoes. Tanlinellwyd problemau mewn ariannu pynciau gwyddonol craidd ynghyd â sut mae annog mwy o fyfyrwyr i astudio gwyddoniaeth yn yr ysgol ac i barhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol.
Fe arweiniodd Strategaeth drafft yr Undeb Ewropeaidd, sy’n canolbwyntio ar dyfiant ac arloesedd cyflogaeth, at drafodaethau defnyddiol ar sut y gall Cymru gymryd rhan yn y cynllun ac elwa o gronfeydd ymchwil a datblygiad yn y dyfodol. Fel rhywun â gradd mewn gwyddoniaeth, yr oedd y trafodaethau’n ddefnyddiol iawn i fi ac rydw i’n gobeithio y byddwn ni’n gallu gweithio ar draws pleidiau gwleidyddol i sicrhau bod ein darparwyr addysg uwch ardderchog yng Nghymru yn derbyn cymaint o gefnogaeth ag sy’n bosib.
Y Bathdy Brenhinol
Fe roddodd ymweliad ym mis Ionawr â’r Bathdy Brenhinol gyfle i fi gael fy mriffio ar eu cynllun buddsoddiad £20m a’r cynlluniau ar gyfer cynnydd mawr yn y gweithlu sy ar fin digwydd. Yn y dyfodol, pan fydd fy nghydweithwyr UE yn gofyn i fi pa gynnyrch sy’n cael ei wneud yng Nghymru, fe alla i ddweud wrthyn nhw fod darnau arian 60 gwlad ar draws y byd yn cael eu gwneud yng Nghymru. Beth bynnag fydd strwythur perchnogaeth y Bathdy Brenhinol yn y dyfodol, rydw i’n sicr y bydd yn gyflogwr lleol gwerthfawr o hyd.
Dow Corning
Yn ystod ymweliad diweddar i safle cynhyrchu Dow Corning yn Y Barri, fe gwrddais â Dr Peter Cartwright, y Cyfarwyddwr Gweithredol Byd-eang dros yr Amgylchedd, Iechyd & Diogelwch, a Chadeirydd Bwrdd y Diwydiant Silicon Ewropeaidd, a David Ott, Cyfarwyddwr y Safle, i ddysgu am sut mae’r cwmni yn gweithio. Fel rhan o’r trafodaethau, fe danlinellwyd cynlluniau i ddyfodol y safle a chynllun deddfwriaethol Ewrop, yn arbennig ym maes Iechyd & Diogelwch a materion amgylcheddol. Gan fy mod yn ymddiddori mewn gwasanaethau ariannol, fe roddodd y cwmni sylw ar y ffordd y bydd yn cael gafael ar ynni a deunyddiau craidd, a’r effaith y gallai deddfwriaeth arfaethedig yr UE ei chael ar y ffordd y maent yn defnyddio cytundebau deilliadol i reoli risg busnes yn llif ariannol dyfodol y cwmni.
Cliciwch ar y lluniau isod i weld yr hyn mae Kay wedi bod yn ei wneud yn yr etholaeth ac yn Senedd Ewrop.