Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

Araith i Gynhadledd y Blaid Geidwadol Gymreig yn Llandudno, 2010

Prynhawn da, gynhadledd.

Mae’n teimlo ei bod yn amser maith ers i fi fod yn eistedd yn y gynhadledd yn gwrando ar Jonathan Evans yn rhoi’r araith hon y llynedd.  Ers hynny, mae llawer o bethau wedi newid – mae gyda fi dair swyddfa mewn tair gwlad wahanol ac rwy’n treulio ‘mywyd yn teithio rhyngddyn nhw, gan drio ffitio ‘mywyd i mewn i siwtges!
 

Ond yn fwy na hynny, mae Cymru wedi newid ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi newid. Rydyn ni wedi dangos i Blaid Cymru a Llafur y gall y Ceidwadwyr ennill yng Nghymru!
 

Am y tro cyntaf er 1859, fe ddaethon ni ar frig y pôl yng Nghymru.  Ar draws y DU, mae Llafur ac UKIP wedi ennill yr un faint o seddi yn Senedd Ewrop – mae gan y Ceidwadwyr yr un nifer o seddi a’r ddau arall gyda’i gilydd.  Mae methiant Llafur yng Nghymru’n rhannol gyfrifol am hyn.  Rydyn ni, yn y gynhadledd, yn gwybod pwy yn union yw’r pleidiau ymylol!
 

Weithioch chi i gyd yn galed i ennill yng Nghymru ac i ennill fy sedd i y llynedd.  Ond nawr, mae’n rhaid i ni weithio’n galetach.  Yn lle ymladd dros bedair sedd ym Mrwsel, rydyn ni’n ymladd i ennill pedwar deg o seddi yn San Steffan.
Dyna ddeg gwaith y nifer o Geidwadwyr rydn ni angen eu hethol i ddod â newid i’r Deyrnas Unedig – felly mae’n rhaid i ni weithio deg gwaith yn galetach er mwyn bod yn ddeg gwaith mwy llwyddiannus!
 

Rydyn ni eisoes wedi profi bod y Ceidwadwyr yn gallu ennill yng Nghymru. Nawr, rydyn ni angen profi hyn eto. Rydyn ni angen mynd allan a dweud wrth bobl Cymru pam taw dim ond ein plaid ni sy’n gwybod sut i lywodraethu ac y byddwn ni’n gweithio’n ddi-ffael dros bobl Cymru i ddod â’r dirwasgiad i ben fel bod pobl Cymu yn gallu edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus.

 

Pan ddechreuais i weithio ym Mrwsel fis Gorffennaf diwetha, ro’n i’n disgwyl y bydden i’n gweithio ar y materion ro’n i wedi bod yn ymgyrchu arnyn nhw yn ystod yr etholiad; amaethyddiaeth, diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, lleihau rheoleiddiad i fusnesau bychain – fodd bynnag, roedd y Ceidwadwyr yn Ewrop wedi pennu rhywbeth arall i fi.
 

Mae’r hen ddihareb yn wir – “gorau arf, arf dysg” ac mae ffeithiau a gwybodaeth yn arfau hynod effeithiol mewn trafodaeth yn Senedd Ewrop.  O bryd i’w gilydd, gallwch chi berswadio gwleidyddion Brwsel i newid eu meddyliau yn seiliedig ar ffeithiau a chryfder dadl yn hytrach na dilyn safbwynt wleidyddol benodol.  Ac felly, fel rhywun oedd yn fanciwr o’r blaen, fe ges i swydd Cydlynydd y Pwyllgor Materion Ariannol ac Economaidd, yn y gobaith y bydden i’n gallu defnyddio fy arbenigedd a’m gwybodaeth i wneud gwahaniaeth gweladwy i lywodraeth economaidd ledled Ewrop.
 

Gall esbonio hyn i’m etholwyr fod yn heriol.  Sut mae materion ariannol ac economaidd yn berthnasol i Gymru?  Mae materion fel cronfeydd buddsoddiad amgen, diwygio’r system archwilio ariannol a deilliannau yn gallu swnio’n bell o fywyd bob dydd.  Fodd bynnag, wrth i mi ymweld â gwahanol ardaloedd o Gymru a gweld cwmnïoedd o wahanol sectorau, dw i’n cael gweld fy ngwaith ar waith – yn y pen draw mae popeth rydw i’n ei wneud ar y pwyllgor ECON yn gysylltiedig a’r economi real.
 

Bydd pethau mor sylfaenol â thorf o fara y prynoch chi y bore ‘ma wedi mynd trwy lawer o brosesau ariannol i ddod a fe i chi am bris y gallwch chi ei fforddio ac ar yr un pryd gadael digon o elw i bawb yn y gadwyn.
 

Pan fo’r ffermwr yn prynu hadau o’r Unol Daleithiau, er mwyn cynyddu’i elw fe fydd yn ymwneud â gweithrediad masnachol deilliannol ynghyd â masnach arian am amddiffyniad; bydd y gwrtaith mae’n ei ddefnyddio i wella’r pridd er mwyn i’r gwenith dyfu ynddo fe yn seiliedig ar brisau olew a chemegau fydd wedi’u cloi i mewn gan gynnyrch deilliadol.  Fe roddir yr yswiriant mae’r ffermwr yn ei ddefnyddio yn ei le rhag ofn bod cynhaeaf gwael, tywydd gwael neu glefyd yn ymwneud a chynnyrch deilliadol.  Pan fydd y ffermwr yn gwerthu’r gwenith fe fydd wedi gwarantu’i bris trwy gynnyrch deilliadol er mwyn peidio â cholli elw.  Bydd y felin sy’n troi’r gwenith yn flawd wedi defnyddio deilliannau i’r cemegau yn y broses ac fe fydd yr archfarchnad yn ymwneud â llawer o weithrediadau masnachol ac ariannol i sicrhau y gallan nhw roi’r pris gorau i chi wrth y til.
 

Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hyn yn golygu bod deilliannau yn effeithio ar bob busnes yng Nghymru – ynghyd â’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd – felly mae gwneud yn siwr bod y ddeddfwriaeth sy’n dod o Ewrop yn ystyried anghenion Cymru, fel y Bathdy Brenhinol a Dow Corning, i enwi ond dau o’r cwmnïoedd rydw i wedi ymweld â nhw yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn flaenoriaeth i fi.  Mae gwneud yn siwr bod deddfwriaeth yn ateb y problemau mae’n ceisio eu datrys a’i fod yn gymesur â’r angen yn hollbwysig. Ar gyfnod pan fo angen help ar ein busnesau, mae’n rhaid sicrhau nad yw deddfwriaeth yn achosi effeithiau anfwriadol trychinebus nac ychwanegu rheoleiddiad beichus a allai roi’r hoelen olaf yn arch busnesau Cymru.


Ar yr ochr bositif, mae llawer o bethau’n rhan o ‘mywyd fel Aelod Senedd Ewrop ddylai gwneud popeth yn werth chweil.
Un o’r uchafbwyntiau hyn oedd y ffaith taw fi oedd yr Aelod Senedd Ewrop cynta i siarad Cymraeg mewn trafodaeth yn Strasbwrg ar ieithoedd lleiafrifol.  Er gwaetha honiad Plaid Cymru yr wythnos hon taw nhw oedd y cynta – fel arfer, roedden ni ar flaen y gad!
 

Bydd archwilio’r ffordd mae dwy pwynt chwech saith filiwn Ewro o Gronfa Strwythurol Ewrop yn cael eu gwario yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. yn ogystal â saith deg dau miliwn Ewro yn Nwyrain Cymru. yn dasg ofnadwy o bwysig.  Mae’n bwysig bod ni’n gwario’r arian hwn ar yr ardaloedd hyn – ardaloedd allai adfywio’n llwyr.  Bydden i wrth fy modd tasen ni’n gwario’r arian ar sefydlu busnesau bychain a rhoi dechrau da i entrepreneuriaid, gan eu galluogi nhw i ddatblygu’n fusnesau hyfyw go iawn, i greu cyfoeth a swyddi i’r genhedlaeth newydd o bobl ifainc yng Nghymru.
 

Ond mae clymblaid Llafur a Phlaid yn Llywodraeth y Cynulliad a’u biwrocratiaeth wedi rhwystro’n huchelgais i fusnesau Cymru.  Ar bob troad maen nhw’n darparu ffurflen arall i’w llenwi, stamp arall i’w osod, neu bydd rhaid siarad ag adran arall.


Does gyda nhw ddim syniad am yr hyn mae aros am chwe mis ychwanegol yn y gobaith ansicr o dderbyn arian ar y diwedd yn gallu ei wneud i fusnes bach.


Yng Nghymru, mae’n rhaid i ni nid yn unig dorri biwrocratiaeth i fusnesau bychain yn Llywodraeth San Steffan – er credwch chi fi, dw i’n bybyr o blaid hynna – mae’n rhaid i ni hefyd ddefnyddio’n manteision i gael dêl well.


O ran arian o’r UE, rydyn ni’n derbyn 2.67 biliwn Ewro i’n lefelu â gweddill yr UE, ond dydy Llafur ddim ond yn pryderu am gwrdd â thargedau gwario – “Rydyn ni mor llwyddiannus, rydyn ni wedi gwario 97% o’r arian a gawson ni,” dydyn nhw ddim yn edrych ar sut y gwariwyd yr arian, pwy elwodd ohono fe neu a wnaeth yr arian wella bywydau unrhyw un yng Nghymru – maen nhw ond yn pryderu eu bod yn cwrdd â’u targedau!
 

Ar ôl cymaint o flynyddoedd yn wlad sy’n un o’r 75% o grwpiau ar waelod yr UE yn ariannol, ac wedi elwa’n dda o gronfeydd strwythurol, mae gyda fi embaras bod yn rhaid i ni fynd yn ôl dro ar ôl tro i Ewrop i ofyn am ragor o arian gan nad ydym ni wedi gwario’r arian blaenorol yn ddigon effeithiol.
 

Mae Finance Wales yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ni wneud gydag arian Ewropeaidd.  Mae Finance Wales i fod i gymryd cronfeydd o’r UE, ychwanegu atyn nhw gyda rhagor o arian o Fanc Buddsoddiad Ewropeaidd ac mewn rhai achosion eu gefeillio gydag arian o’r sector preifat ac wedyn buddsoddi mewn busnesau bychain a modelau busnes cadarn, ac yn y pen draw, talu’r arian yn ôl – mae hyn yn ei dro yn ariannu’r genhedlaeth nesaf o gwmnïoedd newydd.
Mae nifer o hanesion llwyddiannus iawn wedi bod gan gynnwys Abrioux, Enfis ac Accountis lle mae arian wedi mynd i mewn i gwmnïoedd ac wedi cael ei ad-dalu. Ond bob dydd dw i’n clywed wrth fusnesau bychain am y ffaith na chânt dderbyn cymorth gan Finance Wales, fod neb wedi’u cefnogi i geisio am arian, bod yr arian hwn ond ar gyfer elusennau neu gyrff sy’n cael eu rhedeg gan y llywodraeth. Ni fydd rhwystrau biwrocrataidd fel y rhain yn dod â Chymru na’r DU allan o dirwasgiad na gosod ein gwlad yn ôl ymysg economiau cryfaf y byd.
Rydyn ni angen bod ar flaen y gad. Rydyn ni angen ystyried diwydiannau newydd, tra’n cefnogi’r hen ddiwydiannau ar yr un pryd trwy helpu nhw i fabwysiadu dulliau newydd a pharhau i ddarparu swyddi i bobl.  Mae Cymru’n gosod esiampl yn y diwydiannau creadigol fel yn y cyfryngau, er enghraifft.  Mae cwmnïoedd bychain yn dod allan o brifysgolion Cymru ac yn defnyddio’u gwybodaeth i sefydlu cwmnïoedd rhaglennu cyfrifiaduron, fel dylunio meddalwedd – gan gynnwys creu gemau Play Station newydd sy’n fythol boblogaidd.

 
Rwy’n gweithio tuag at ddarparu cefnogaeth o hyd trwy strategaeth UE newydd sy’n canolbwyntio ar annog tyfiant a ffyrdd blaengar o weithredu yn yr UE, gan roi rhywbeth i ni anelu ato fe dros y deng mlynedd nesa.  Fe allai hyn fod yn fframwaith ardderchog am yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni.  Fe allwn ni wneud Cymru’n wlad ddeniadol i wneud ymchwil prifysgol ynddi a denu masnachau preifat fydd yn buddsoddi mewn creu diwydiannau cynaliadwy, a fydd yn cefnogi prosiectau sy ar hyn o bryd yn cael eu datblygu mewn ymchwil a’u symud tuag at ddatblygiad.  Fe all Cymru elwa o glystyrau ymchwil yn y dyfodol, yn enwedig mewn technolegau sy’n seiliedig ar ynni. Mae’n rhaid i Gymru ddefnyddio’r offerynnau ariannu i gyd sydd ganddi i ariannu masnacheiddio’r technolegau hyn er mwyn trawsffurfio economi Cymru.
 

Mae’r Blaid Lafur yn hoffi ymffrostio am y nifer o fusnesau mae eu cynlluniau wedi’u helpu, ond maen nhw’n gwrthod gwneud y pethau symlaf fyddai’n gwella gwerth am arian.
 

Tasen nhw wedi bod ag awydd gwneud, fe allai Llywodraeth y Cynulliad fod wedi defnyddio yr union beth sy wedi bod yn ein brifo ni mewn ardaloedd eraill i gael rhagor o arian o’r UE a chael dêl well i Gymru – sef manteisio ar y bunt wan.

 
Efallai bod Ewro cryf yn effeithio arnon ni pan fyddwn ni’n teithio tramor ar wyliau, ond gan fod cronfeydd yr UE yn cael eu gweithio allan mewn Ewros ac rydyn ni’n eu gwario mewn punnoedd, ar hyn o bryd mae gyda ni fwy i’w wario. Os rydyn ni’n dosrannu’r arian tra bo’r cyfraddau cyfnewid mor uchel, fe all Cymru elwa o oddeutu saith cant o bunnoedd ychwanegol yn gyfnewid am Ewros yr UE – arian am ddim, yn llythrennol.


Ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu nad ydyn nhw eisiau dosrannu’r arian yn seiliedig ar gyfraddau cyfnewid.  Maen nhw am aros i brosiectau gwell ymddangos.  Rydw i’n gweithio gyda busnesau ledled Cymru i ddwyn perswad ar WEFO y dylid gwneud buddsoddiadau ar drywydd cyflym, yn enwedig mewn prosiectau cynaliadwy.  Fe fyddai hyn yn llesol mewn dwy ffordd – rhagor o arian oherwydd gwendid y bunt a byddai’r arian yn cael ei fuddsoddi’n gynt pan fo’n busnesau ei angen.
 

Yn yr un ffordd ag y gwnaeth Gordon Brown fethu i ddeall sylfeini’r farchnad a gwerthu’n haur ar y funud waethaf un, y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud yn union yr un peth.
 

Tra bod bancwyr yn gyff gwawd am yr arian roedd rhaid i ni wario arnyn nhw, byddai’n well gyda fi weld Gordon Brown, Alistair Darlin a’i debyg yn cael eu beirniadu am wendid eu dealltwriaeth o egwyddorion economaidd sylfaenol.
Yn Ewrop, rydyn ni’n canolbwyntio ar anawsterau economaidd Gwlad Groeg, Portiwgal, Sbaen ac Iwerddon, ond o ran problemau ariannol mae’r DU mewn sefyllfa cyn waethed a Gwlad Groeg ac mae angen i wleidyddion wneud y penderfyniadau anodd i gael ein gwlad yn ôl ar ei thraed.


Ond mae’n ymddangos bod Gordon Brown wedi bod yn cymryd cyngor economaidd o Dde Ewrop – yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi defnyddio “ariannu blaengar” i guddio’u dyledion a morgeisio dyfodol eu plant, felly mae Gordon Brown.  Mae’n rhaid i fi gyfadde fod “ariannu blaengar” yn un o’r dulliau blaengar prin hynny nad ydw i’n ei hoffi!  Dydy clymu cyllid datblygiad y DU, cronfeydd pensiwn ac hyd yn oed benthyciadau myfyrwyr mewn diogeliadau (securitisations) cymhleth sy ar ddiwedd y dydd yn golygu benthyg swm anferthol o arian ddim yn ffordd flaengar o weithredu – dyma glymu’ch hunan mewn dyled gymhleth.  Mae ariannu PFI nad ydyw’n ymddangos ar y mantolen a chyfrifoldebau pensiynau cyhoeddus sy heb eu hariannu yn gadael y DU mewn sefyllfa wannach o lawer nag y byddai Llafur eisiau i bobl Cymru ei wybod – dyna pam nad ydyw’n ymddangos ar y mantolen.

 
Mae’r UE yn fwch dihangol hawdd i Wlad Groeg.  Mae bod yn aelod o’r ewro yn eu rhwystro rhag gwneud newidiadau penodol i’w heconomi.  Mae’n eu datguddio i gystadleuaeth annheg i arian sy ddim yn rhan o’r ewro, mae’n rhoi targedau heriol ar ba mor fawr y gall diffyg ariannol ei lywodraeth fod, gan ei gorfodi i gyflwyno dulliau cynildeb amhoblogaidd – ond yn anad dim, mae Gwlad Groeg yn dod i ddeall faint ei broblemau ac yn dechrau cymryd cyfrifoldeb dros ei benderfyniadau ei hunan. Pryd bydd Gordon Brown yn gwneud yr un peth?


Mae’r Llywodraeth yn euog o’r un peth.  Pan daw at wario arian yr UE, mae’r deialog yn troi’n syth at “wariant Llywodraeth y Cynulliad” a “Llywodraeth y Cynulliad yn helpu busnesau”, ond pan fydd cyfreithiau amhoblogaidd yn cael eu gweithredu’n ddraconaidd, cânt eu priodoli i ddylanwad Ewrop.
 

Maen nhw’n beio rheolau’r UE.  Rydw i a’m cydweithwyr wedi treulio misoedd yn trafod cyfaddawdau i gael y ddêl orau i’r DU a rhoi’r hyblygrwydd i aelod-wladwriaethau weithredu’r rheolau fel bo’n briodol. Ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn troi’i chefn ar hyblygrwydd gydag agwedd "rheolau yw rheolau". Fe glywais i wrth Undeb Ffermwyr Cymru bod ffermwyr yn cael eu dirwyo symiau mawr o arian gan eu bod wedi cyflwyno gwartheg o’r rhyw anghywir yn ol ei dagiau electronig. Fe ddyfarnwyd y ddirwy ar sylfaen y gallai Llywodraeth y Cynulliad wynebu dirwy yn y dyfodol. Ble mae’r rhyddid i weithredu’n iawn?  Gall rheolau’r UE ymddangos yn bedantig ac yn ddi-bwynt ond pan fo Llywodraeth y Cynulliad yn ymwneud â’r peth, mae eu dadansoddiad Stalinaidd o reolau yn anghredadwy – hyd yn oed os nad oes angen tag electronig arna i i ddweud p’un ai ydy buwch yn fuwch neu darw yn darw!
 

Yn fwy na neb yn y DU, rydyn ni yng Nghymru’n gwybod beth fyddai buddugoliaeth i’r Blaid Lafur yn ei olygyu i’r wlad. Rydyn ni wedi gweld eu polisïau ar waith am flynyddoedd ormod o lawer. Rydyn ni wedi’u gweld nhw’n gwastraffu arian yr UE, arian y trethdalwr ac arian maen nhw heb ei dderbyn eto.
Rydyn ni’n gwybod taw dim ond y Ceidwadwyr sy’n deilwng o arwain llywodraeth, gyda chynllun cadarn i’r dyfodol. Nawr, rydyn ni angen sicrhau bod pawb arall yn gwybod hynny hefyd.
 

Mae’n amser am newid. Newid yng Nghymru a newid yn y Deyrnas Unedig.
Hoffwn i orffen trwy ddyfynnu geiriau rhywun wnaeth ymweld â’m swyddfa wythnos diwetha. – “I ennill, mae’n rhaid i chi redeg yn gyflymach nag y rhedoch chi ddoe – a rhedeg yn gyflymach na phawb arall.  Rydyn ni’n rhedeg yn gyflymach nag y rhedon ni ddoe, ond a ydyn ni’n rhedeg yn gyflymach na phawb arall?”
 

Pob lwc i bawb yn eu hymdrechion i ddod â dyfodol Ceidwadol i Gymru.

Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
04/12/2013

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd heddiw wedi rhoi statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ewropeaidd (PGI) i’r Pembrokeshire Early Potato adnabyddus o Orllewin Cymru.

Roedd y Pembrokeshire Early Potato yn un o dri chynnyrch fferm o ansawdd yn unig i dderbyn statws PGI heddiw.

Mae cynlluniau PGI yr UE yn diogelu enwau cynnyrch rhag cael eu camddefnyddio ac mae dros 1,200 o gynhyrchion eisoes yn cael eu diogelu o dan y cynlluniau hyn .

Wrth drafod y cyhoeddiad hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw, fe ddywedodd Dr Kay Swinburne ASE - sy'n hanu o Orllewin Cymru:

"Rwyf wrth fy modd o weld bod y cais hwn i gael “Pembrokeshire Earlies” wedi’i ychwanegu at y gofrestr o gynnyrch PGI wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw.

"Mae ennill y statws mawreddog hwn yn gydnabyddiaeth glir o ansawdd uchel y cynnyrch nodedig rydym yn parhau i’w gynhyrchu yng Nghymru. Mae Pembrokeshire Early Potatoes yn llawn haeddu eu lle ochr yn ochr â'r cynnyrch adnabyddus o bob rhan o'r Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn ymddangos ar gofrestr y PGI."

26/11/2013


Roedd Kay yn hapus iawn i gynnal y digwyddiad hwn i ddathlu Addysg Uwch, Gwyddoniaeth ac Arloesedd yng Nghymru neithiwr yn Senedd Ewrop.  Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar "Ddadansoddiad Strategol y Sector Addysg Uwch yng Nghymru, Asedau Nodedig" y Cyngor Prydeinig. Fe siaradodd nifer o arbenigwyr i rannu eu barn ar AU Cymru yn ystod y digwyddiad ac ar sut y gallai ddatblygu yn y dyfodol.

20/11/2013


Cyn y bleidlais ar ‘Adroddiad Fox-Hafner’ ar leoli Senedd Ewrop mewn un lleoliad yn unig, mae Kay a’r ASEau Ceidwadol eraill o’r DU, yn teimlo ei bod hi’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod gweithredu Senedd Ewrop mewn dau le yn costio £928,000,000. Ers cael ei hethol i Senedd Ewrop yn 2009, mae Kay wedi cefnogi dod â chyfarfodydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg i ben, rhywbeth fyddai’n arbed arian sylweddol i’r trethdalwyr.  

20/11/2013


Roedd Kay wrth ei bodd i gwrdd â Malala Yousafzai, a ddyfarnwyd Gwobr Hawliau Dynol Sakharov yr UE yn Senedd Ewrop heddiw.
 

Yn dilyn araith Malala yn Senedd Ewrop heddiw, fe ddywedodd Kay, “Rhoddodd Malala araith ysbrydoledig i Aelodau Senedd Ewrop heddiw. Rydw i’n fam i blant ifanc, a gobeithio y byddan nhw hefyd yn anelu at gyrraedd ei chyrhaeddiadau hi. Mae Malala yn fenyw ifanc eithriadol sy wedi gorchfygu adfyd oherwydd ei chymeriad cryf a’i chred gwaelodol mewn hawliau’r unigolyn i fwynhau ac I elwa ar addysg.”

12/11/2013

Roedd Kay yn hapus iawn i gwrdd ag aelodau o Grwp Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu yn Senedd Ewrop, Brwsel, sef un o'r pedwar grwp a sefydlwyd mewn meysydd ymchwil allweddol i Gymru, i fanteisio ar gronfeydd ymchwil yr UE. Aeth cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Bangor, Abertawe a'r Drindod Dewi Sant i Frwsel i ddatblygu'r perthynas. 
23/10/2013
Mae Dr Swinburne wedi rhoi ei chefnogaeth i’r argymhellion a wnaed mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan nifer o arweinwyr busnes, cyn cyfarfod arweinwyr Cyngor Ewrop yfory, sy’n tanlinellu pwysigrwydd gwaredu rhwystrau i gystadleurwydd busnes yn Ewrop a chael gwared ar ddeddfwriaeth feichus gan dorri tâp coch yr UE.


Y llynedd, fe ofynnodd Dr Swinburne i fusnesau Cymru ddweud wrth Gomisiwn Ewrop pa reoleiddiadau gor-feichus yr hoffen nhw eu gwaredu, gan ysgrifennu at fusnesau bychain ledled Cymru a thrwy ofyn i fusnesau Cymru ledled Cymru i ddweud wrthi hi am eu problemau tâp coch.
08/10/2013
Dydy sigaréts electronig
ddim bellach yn wynebu cael eu gwaredu o’r silffoedd gan yr UE ar ôl i’r ASEau Ceidwadol ddiwygio deddfwriaeth yr UE ar labelu tybaco yn llwyddiannus heddiw.


Fe arweiniodd yr ASEau Ceidwadol y gwelliant i drechu cynigion a fyddai wedi dosbarthu e-sigaréts yn gynhyrchion meddyginiaethol, sy'n golygu y byddai'n rhaid iddynt gael gweithdrefn awdurdodi rhy feichus a chostus, a fyddai'n mynd y tu hwnt i'r gweithdrefnau ar gyfer cynhyrchion tybaco traddodiadol... (Darllenwch ragor dan 'Erthyglau')



18/09/2013
Mae’r ASE Ceidwadol Cymreig Kay Swinburne wedi bod yn eistedd i lawr gydag arweinwyr ym maes biotechnoleg Ewrop i ddewis y pum ymgeisydd gorau i gystadlu ar gyfer yr EuropaBio Most Innovative EU Biotech SME Award eleni.

Fel aelod o’r pwyllgor barnu, mae Kay unwaith eto yn cefnogi’r wobr EuropaBio, sydd wedi denu ymgeiswyr o’r tri sector biotechnoleg – gofal iechyd, diwydiannol ac amaethyddol, ledled yr UE... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')
11/09/2013


Fe groesawyd pleidlais heddiw yn Senedd Ewrop gan yr ASE Ceidwadol Cymreig Dr Kay Swinburne fel galwad i ddeffro yn y frwydr i arbed ieithoedd Ewrop sydd mewn perygl.

Fe gefnogodd yr ASEau adroddiad yn Strasbwrg sy’n alw ar i lywodraethau ledled yr UE i ddatblygu cynlluniau gweithredu i annog amrywiaeth ieithyddol barhaus.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan yr ASE Corsaidd, François Alfonsi, hefyd yn dweud y dylai llywodraethau fod yn “fwy sylwgar” i fygythiadau a allai arwain at ddifodiant ieithoedd.

Mae Dr Swinburne, a oedd yn gysgod adroddwr yr adroddiad, wedi dadlau y gellid ystyried y Gymraeg yn enghraifft cadarnhaol o adfywiad iaith y dylai cymunedau ledled yr UE ei ddilyn... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')

Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2013 – Cedwir pob hawl