Am Kay
Fe aned a magwyd Kay yn Aberystwyth, Cymru. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llandysul ac fe aeth Kay ymlaen i astudio Biocemeg a Meicrobioleg yn King’s College London ac wedyn gwneud Ph.D. mewn ymchwil meddygol ac MBA o Brifysgol Surrey.
Fe etholwyd Kay yn ASE Ceidwadol dros Gymru ym mis Mehefin 2009. Dyma’r tro cyntaf i’r Blaid Geidwadol ddod ar y brig yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Mae gyrfa lwyddiannus mewn bancio buddsoddi wedi’i thrwytho hi yn y farchnad ariannol fyd-eang. Fe wnaeth y profiad hwn, yn ogystal â’i phrofiad yn cynghori busnesau yn Ewrop ac UDA, arwain at iddi gael ei phenodi i Bwyllgor Materion Ariannol ac Economaidd Senedd Ewrop.
Mae Kay yn ymddiddori’n ddwys ym mha mor gyflym mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymateb i reoleiddiad gwasanaethau ariannol heb edrych yn drylwyr ar ei wir effaith. Mae hi’n credu y dylai’r UE weithio mewn fframwaith byd-eang gan fod yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu’n fyd-eang; felly mae’n rhaid iddi weithio gyda’r UD ac mae’n rhaid cyflwyno strategaeth wedi’i chydlynu’n fyd-eang sy’n dilyn agenda’r C20.
Fe fydd prif flaenoriaethau gwleidyddol Kay yng Nghymru’n cynnwys bywioldeb economaidd i fusnesau lleol yng Nghymru trwy fuddsoddiad cynaliadwy a gwella cyfleusterau gwledig. Mae hi wedi bod yn gweithio at greu economi Gymreig gref a sefydlog a fydd yn annog ac yn cefnogi masnach a busnesau, yn enwedig Mentrau Bychain a Chanolig eu maint (SMEs) sy’n hanfodol i adfywiad economaidd.
Pwyllgorau a Dirprwyaethau
Mae Kay ar hyn o bryd yn Gydgysylltydd Grwp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (
ECR) ar Bwyllgor Ariannol ac Economaidd Senedd Ewrop (
ECON); ac yn Gydgysylltydd Grwp yr ECR ar y Pwyllgor Arbennig sy’n trin yr Argyfwng Cymdeithasol, Economaidd ac Ariannol (
CRIS). Fe benodwyd Kay yn Llefarydd Ceidwadol y DU dros Faterion Ariannol ac Economaidd yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn aelod o Gynulliad Seneddol EwroMed (
DMED) ac yn ddirprwy aelod y Ddirprwyaeth Balestinaidd. Mae Dr Swinburne hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd y Blaid Geidwadol Gymreig.
Cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig
I ddarllen y cwestiynau ysgrifenedig mae Kay wedi’u cyflwyno i Gomisiwn Ewrop, cliciwch ar y ddolen ddilynol:
cwestiynau ysgrifenedig
Fy Staff
Swyddfa Brwsel

Rhiannon Price, Prif Gynorthwy-ydd Ymchwil (Brwsel)
Yn gyfrifol am y Pwyllgor Economeg a Materion Ariannol a rheoli’r dyddiadur gwaith ym Mrwsel

Julie Shah, Cynorthwy-ydd Ymchwil (Brwsel)
Mae Julie yn gyfrifol am ymholiadau yn ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hi hefyd yn gyfrifol am y ddirprwyaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd (
DEEA), a’r ddirprwyaeth Balesteinaidd (
DPLC).
Swyddfa Caerdydd

Oliver Owen, Cynorthwy-ydd Ymchwil (Caerdydd)
Yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac ateb ymholiadau o’r etholaeth ynglyn â Chymru/DU

Lizzie Lumley, Swyddog Strategaeth Gyfathrebu (Caerdydd)
Yn Gyfrifol am Gyfathrebiaeth a Strategaeth yng Nghymru ynghŷd â chyswllt â’r etholaethau a chefnogaeth gyda’r cyfryngau.
Cysylltiadau