Fe groesawodd yr ASE Ceidwadol Cymreig, Kay Swinburne, y mesurau newydd a gafodd eu pleidleisio arnynt yn Senedd Ewrop, fydd yn rhoi rhagor o bwer bargeinio i ffermwyr llaeth a rhagor o reolaeth dros y pris maen nhw’n ei dderbyn am eu llaeth.
Fe basiwyd y ddeddfwriaeth fel adwaith i bryderon niferus fod pwer trafod y cwmnïoedd bwyd mawr yn gyrru prisiau i lawr i lefelau oedd yn bygwth dyfodol rhai o ffermydd llaeth Cymru.
Yn bwysig iawn, fe gaiff Sefydliadau Cynhyrchu eu cydnabod o hyn ymlaen gan ddeddfwriaeth yr UE, fydd yn caniatáu iddynt drafod pris ar gyfer eu llaeth hyd at 33% o gynhyrchiant cenedlaethol ynteu 3.5% o gynhyrchiant yr UE gyfan. O ganlyniad, fe fydd gan y ffermwyr safle gref yn y tsiaen cyflenwi llaeth fydd yn eu galluogi i drafod ar gyfer pris gwell y litr ar gyfer eu llaeth.
Yn olaf, fe gaiff y ffaith nad oes cytundebau ysgrifenedig yn bodoli sylw, ac fe fydd gan y llywodraethau cenedlaethol opsiwn o gyflwyno cytundebau gorfodol.
Fe ddywedodd Kay:
"Mae ffermwyr llaeth Cymru wedi bod yn cael dêl wan am bris eu llaeth am yn rhy hir ac mae’r sefyllfa ariannol ansicr wedi cyfrannu at hyn. Mae’n bur annheg fod ffermwyr llaeth Cymru’n derbyn 3c ar gyfartaledd yn llai y litr na chyfartaledd yr UE ac mae’n bryd i ni newid hyn.
“Rydw i’n falch gweld fod yr UE yn ymwybodol o’r hyn mae ffermwyr llaeth yn ei brofi ledled Ewrop, gyda ffermwyr Cymru’n cael dêl waeth na’u cydweithwyr ledled yr UE. Er nad ydyw’n datrys bob problem mae ffermwyr llaeth yn ei hwynebu, mae’r ddeddfwriaeth hon yn ddechrau da tuag at unioni’r fantol pan fyddant yn trafod pris llaeth.
“Erbyn hyn, mae gan bob gwlad yn yr UE yr opsiwn i gyflwyno cytundebau. Fe fyddwn ni’n ymbilio ar i Lywodraeth Cymru wneud hyn, yn enwedig o ystyried fod y nifer o ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi haneru o fewn y degawd diwethaf. Fe fydd y cam hwn hefyd yn cynnig y sefydlogrwydd maen nhw wedi bod yn gofyn amdano am yn hir iawn.
“Dyma gam mawr i’r cyfeiriad iawn, ac yr wyf yn siwr y caiff ei groesawu gan ffermwyr llaeth ledled Cymru.”